Actau'r Apostolion 15:36
Ac wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas, Dychwelwn, ac ymwelwn â’n brodyr ym mhob dinas y pregethasom air yr Arglwydd ynddynt, i weled pa fodd y maent hwy.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
37A Barnabas a gynghorodd gymryd gyda hwynt loan, yr hwn a gyfenwid Marc.
Read all of Actau'r Apostolion 15
Cross References
Exodus 4:18¶ A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gâd i mi fyned, attolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aipht, a gweled a ydynt etto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch.
Jeremiah 23:2Am hynny fel hyn y dywed AR¬GLWYDD DDUW Israel yn erbyn y bugeil¬iaid sydd yn bugeilio fy mhobl; Chwi a wasgarasoch fy nefaid, ac a’u hymlidiasoch, ac nid ymwelsoch â hwynt: wele fi yn ymweled â chwi, am ddrygioni eich gweithredoedd, medd yr ARGLWYDD. º
Matthew 25:43Bûm ddieithr, ac ni’m dygasoch gyda chwi: noeth, ac ni’m dilladasoch: yn glaf ac yng ngharchar, ac nid ymwelsoch â mi.
Acts 13:4A hwythau, wedi eu danfon ymaith gan yr Ysbryd Glân, a ddaethant i Seleucia; ac oddi yno a fordwyasant, i Cyprus.
Acts 13:51Eithr hwy a ysgydwasant y llwch oddi wrth eu traed yn eu herbyn hwynt, ac a ddaethant i Iconium.
Acts 14:6Hwythau a ddeallasant hyn, ac a ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd o Lycaonia, ac i’r wlad oddi amgylch: