Actau'r Apostolion 18:6
A hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn, a chablu, efe a ysgydwodd ei ddillad, ac a ddywedodd wrth- ynt, Bydded eich gwaed chwi ar eich pennau eich hunain; glân ydwyf fi: o hyn allan mi a âf at y Cenhedloedd,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Actau'r Apostolion 18
Cross References
Leviticus 20:9¶ Os bydd neb a felldigo ei dad neu ei fam, lladder ef yn farw: ei dad neu ei fam a felldigodd efe; ei waed fydd arno ei hun.
2 Samuel 1:16A dywedodd Dafydd wrtho ef, Bydded dy waed di ar dy ben dy hun: canys dy enau dy hun a dystiolaethodd yn dy erbyn, gan ddywedyd, Myfi a leddais eneiniog yr ARGLWYDD.
Ezekiel 3:18Pan ddywedwyf wrth y drygionus, Gan farw y byddi farw; oni rybuddi ef, ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddrycffordd, fel y byddo byw; y drygionus hwn a fydd farw yn ei anwiredd: ond ei waed ef a ofynnaf fi ar dy law di.
Ezekiel 33:4Yna yr hwn a glywo lais yr utgorn, ac ni chymer rybudd; eithr dyfod o't cleddyf a'i gymryd ef ymaith, ei waed fydd ar ei ben ei hun.
Matthew 8:11Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o’r dwyrain a’r gorllewin, ac a eisteddant gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd:
Matthew 21:43Am hynny meddaf i chwi, Y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi, ac a’i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau.