Actau'r Apostolion 8:24
A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Gweddïwch chwi drosof fi at yr Ar¬glwydd, fel na ddêl dim arnaf o’r pethau a ddywedasoch.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
23Canys mi a’th welaf mewn bustl chwerwder, ac mewn rhwymedigaeth anwiredd.
Read all of Actau'r Apostolion 8
Cross References
Genesis 20:17¶ Yna Abraham a weddïodd ar Dduw: a Duw a iachaodd Abimelech, a’i wraig, a’i forwynion; a hwy a blantasant.
Exodus 10:17Ac yn awr maddeu, attolwg, fy mhechod y waith hon yn unig, a gweddïwch ar yr Arglwydd eich Duw, ar iddo dynnu oddi wrthyf y farwolaeth hon yn unig.
Numbers 21:7¶ A daeth y bobl at Moses, a dywedasant, Pechasom; canys llefarasom yn erbyn yr Arglwydd, ac yn dy erbyn dithau: gweddïa ar yr Arglwydd, ar yrru o hono ef y seirph oddi wrthym. A gweddïodd Moses dros y bobl.
1 Samuel 12:23A minnau, na ato Duw i mi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD, trwy beidio a gweddïo drosoch: eithr dysgaf i chwi. y ffordd dda ac uniawn.: º
Ezra 6:10Fel yr offrymont aroglau peraidd i DDUW y nefoedd, ac y gweddïont dros einioes y brenin, a’i feibion.
Job 42:8Yn awr gan hynny cymerwch i chwi saith o fustych, a saith o hyrddod, ac ewch at fy ngwasanaethwr Job, ac offrymwch boethaberth drosoch; a gweddied fy ngwasanaethwr Job drosoch: canys mi a dderbyniaf ei wyneb ef: fel na wnelwyf i chwi yn ôl eich ffolineb, am na ddywedasoch yr uniawn amdanaf fi, fel fy ngwasanaethwr Job.