Llyfr Amos 1:6
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD;. Am dair o anwireddau Gasa, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt gaethgludo y gaethiwed gyflawn, i’w rhoddi i fyny i Edom.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
7Eithr anfonaf dân ar fur Gasa, ac efe a ddifa ei phalasau hi.
Cross References
2 Chronicles 21:16Felly yr ARGLWYDD a gyffrodd yn erbyn Jehoram ysbryd y Philistiaid, a’r Arabiaid, y rhai oedd gerllaw yr Ethiopiaid:
2 Chronicles 28:18Y Philistiaid hefyd a ruthrasent a ddinasoedd y gwastadedd, a thu deau Jwda, ac a enillasent Beth-semes, ac Ajalon, a Gederoth, a Socho a’i phentrefi, Timna hefyd a’i phentrefi, a Gimso a’i phentrefi; ac a drigasant yno.
Jeremiah 47:1GAIR yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa. º
Ezekiel 25:15y Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am wneuthur o'r Philistiaid trwy ddial, a dialu dial trwy ddirmyg calon, i'w dinistrio am yr hen gas;
Joel 3:6Gwerthasoch hefyd feibion Jwda a meibion Jerwsalem i'r Groegiaid, i'w pellhau oddi wrth eu hardaloedd.
Amos 1:9Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Tyrus, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o’r gaethiwed i Edom, ac na chofiasant y cyfamod brawdol.