Llyfr Amos 4:6
A rhoddais i chwi lendid dannedd yn eich holl ddinasoedd, ac eisiau bara yn eich holl leoedd: eto ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr ARGLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:26A phan dorrwyf ffon eich bara, yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys: a chwi a fwyttêwch, ac nis digonir chwi.
Ruth 1:1A bydd, yn y dyddiau yr oedd y brawdwyr yn barnu, fod newyn yn y wlad: a gŵr o Bethlehem Jwda a aeth i ymdeithio yng ngwlad Moab, efe a’i wraig, a’i ddau fab.
1 Kings 18:2Ac Eleias a aeth i ymddangos i Ahab. A’r newyn oedd dost yn Samaria. º
2 Kings 6:25Ac yr oedd newyn mawr yn Samaria: ac wele, yr oeddynt hwy yn gwarchae arni hi, nes bod pen asyn er pedwar ugain sicl o arian, a phedwaredd ran cab o dom colomennod er pum sicl o arian.
2 Chronicles 28:22A’r amser yr oedd yn gyfyng arno, efe a chwanegodd droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD: hwn yw y brenin Ahas.
Isaiah 9:12Y Syriaid o’r blaen, a’r Ph’listiaid hefyd o’r ôl: a hwy a ysant Israel yn safnrhwth. Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig. º