Llythyr Paul at y Colosiaid 1:6
Yr hon sydd wedi dyfod atoch chwi, megis ag y mae yn yr holl fyd; ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ag yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llythyr Paul at y Colosiaid 1
Cross References
Psalms 98:3Tân a â allan o’i flaen ef, ac a lysg ei elynion o amgylch.
Matthew 24:14A’r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy’r holl fyd, er tystiolaeth i’r holl genhedloedd: ac yna y daw’r diwedd.
Mark 4:8A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchiol, ac a ddug un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.
Mark 16:15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur.
John 15:16Nid chwi a’m dewisasoch i, ond myfi a’ch dewisais chwi, ac a’ch ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosai eich ffrwyth; megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tad yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.
Acts 12:24A gair Duw a gynyddodd ac a amlhaodd.