Llythyr Paul at y Colosiaid 2:11
Yn yr hwn hefyd y'ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosg corff pechodau'r cnawd, yn enwaediad Crist:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod:
Read all of Llythyr Paul at y Colosiaid 2
Cross References
Deuteronomy 30:6A’r Arglwydd dy Dduw a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, er mwyn cael o honot fyw.
Mark 14:58Ni a’i clywsom ef yn dywedyd. Mi a ddinistriaf y deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw.
Acts 7:48Ond nid yw’r Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo; fel y mae’r proffwyd yn dywedyd,
Romans 2:29Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew; ac enwaediad y galon sydd yn yr ysbryd, nid yn y llythyren; yr hwn y mae ei glod nid o ddynion, ond o Dduw.
2 Corinthians 5:1Canys ni a wyddom, os ein daear ôl»—’ dŷ o’r babell hon a ddatodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd.
Galatians 2:20Mi a groeshoeliwyd gyda Christ: eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi: a’r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a’m carodd, ac a’i dodes ei hun drosof fi.