Llythyr Paul at y Colosiaid 2:16
Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gwyl, neu newyddloer, neu Sabothau:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
17Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist.
Read all of Llythyr Paul at y Colosiaid 2
Cross References
Leviticus 11:2Llefarwch wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma yr anifeiliaid a fwyttêwch, o’r holl anifeiliaid sydd ar y ddaear.
Leviticus 17:10¶ A phwy bynnag o dŷ Israel, ac o’r dïeithriaid a ymdeithio yn eich mysg, a fwyttao ddim gwaed; myfi a osodaf fy wyneb yn erbyn yr enaid a fwyttao waed, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.
Numbers 10:10Ar ddydd eich llawenydd hefyd, ac ar eich gwyliau gosodedig, ac ar ddechreu eich misoedd, y cenwch ar yr udgyrn uwch ben eich offrymmau poeth, ac uwch ben eich aberthau hedd; a byddant i chwi yn goffadwriaeth ger bron eich Duw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
Deuteronomy 14:3¶ Na fwytta ddim ffiaidd.
1 Samuel 20:5A Dafydd a ddywedodd wrth Jona¬than, Wele, y dydd cyntaf o’r mis yw yfory, a minnau gan eistedd a ddylwn eistedd gyda’r brenin i fwyta: ond gollwng fi, fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brynhawn y try dydd dydd. º
2 Kings 4:23Dywedodd yntau, Paham yr ei di ato ef heddiw? nid yw hi na newyddloer, na Saboth. Hithau a ddywedodd pob peth yn dda.