Llyfr Daniel 1:4
Fechgyn y rhai ni byddai ynddynt ddim gwrthuni, eithr yn dda yr olwg, a deallgar ym mhob doethineb, ac yn y gwybod gwybodaeth, ac yn deall cyfarwyddyd, a’r rhai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin, i’w dysgu ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 21:18Canys ni chaiff un gwr y byddo anaf arno nesâu; y gwr dall, neu y cloff, neu y trwyndwn, neu y neb y byddo dim gormod ynddo;
Judges 8:18Yna efe a ddywedodd wrth Seba a Salmunna, Pa fath wŷr oedd y rhai a laddasoch chwi yn Tabor? A hwy a ddywedasant, Tebyg i ti, pob un o ddull meibion brenin. º
Proverbs 22:29A welaist ti ŵr diesgeulus yn ei orchwyl? efe a saif gerbron brenhinoedd, ac ni saif gerbron rhai iselradd.
Daniel 1:17A’r bechgyn hynny ill pedwar, DUW a roddes iddynt wybodaeth a deall ym mhob dysg a doethineb: a Daniel a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth a breuddwydion.
Daniel 2:2A’r brenin a archodd alw am y dewiniaid, ac am yr astronomyddion, ac am yr hudolion, ac am y Caldeaid, i fynegi i’r brenin ei freuddwydion: a hwy a ddaethant ac a safasant gerbron y brenin.
Daniel 2:10Y Caldeaid a atebasant o flaen y brenin, ac a ddywedasant, Nid oes dyn ar y ddaear a ddichon ddangos yr hyn y mae y brenin yn ei ofyn; ac ni cheisiodd un brenin, na phennaeth, na llywydd, y fath beth â hwn gan un dewin, nac astronomydd, na Chaldead.