Llyfr Daniel 10:19
Ac a ddywedodd, Nac ofna, ŵr annwyl; heddwch i ti, ymnertha, ie, ymnertha. A phan lefarasai efe wrthyf, ymnerthais, a dywedais, Llefared fy arglwydd; oherwydd cryfheaist fi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
18Yna y cyffyrddodd eilwaith â mi fel dull dyn, ac a’m cryfhaodd i,
Cross References
Joshua 1:6Ymgryfhâ, ac ymwrola: canys ti a wnei i’r bobl hyn etifeddu y wlad yr hon a dyngais wrth eu tadau ar ei rhoddi iddynt.
Judges 6:23A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Tangnefedd i ti: nac ofna; ni byddi farw.
Psalms 138:3Canys yno y gofynnodd y rhai a’n caethiwasent i ni gân; a’r rhai a’n hanrheithiasai, lawenydd, gan ddywedyd; Cenwch i ni rai o ganiadau Seion.
Isaiah 41:10Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy DDUW: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di a deheulaw fy nghyfiawnder. º
Isaiah 43:1OND yr awr hon fel hyn y dywed yr ARGLWYDD dy Greawdwr di, Jacob, a’th Luniwr di, Israel, Nac ofna; canySr gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt. º
Daniel 10:11Ac efe a ddywedodd wrthyf, Daniel, ŵr annwyl, deall y geiriau a lefaraf wrthyt, a saf yn dy sefyll: canys atat ti y’m hanfonwyd yr awr hon. Ac wedi iddo ddywedyd y gair hwn, sefais gan grynu.