Llyfr Daniel 11:2
Ac yr awr hon y gwirionedd a fynegaf i ti; Wele, tri brenin eto a safant o fewn Persia, a’r pedwerydd a fydd gyfoethocach na hwynt oll: ac fel yr ymgadarnhao efe yn ei gyfoeth, y cyfyd efe bawb yn erbyn teyrnas Groeg.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
1Ac yn y flwyddyn gyntaf i Dareius y Mediad, y sefais i i’w gryfhau ac i’w nerthu ef.
3A brenin cadarn a gyfyd, ac a lywodraetha â llywodraeth fawr, ac a wna fel y mynno.
Cross References
Ezra 4:6Ac yn nheyrnasiad Ahasferus, yn nechreuad ei deyrnasiad ef, yr ysgrifenasant ato achwyn yn erbyn trigolion Jwda a Jerwsalem.
Ezra 4:24Yna y peidiodd gwaith tŷ DDUW yr hwn sydd yn Jerwsalem, ac y bu yn sefyll hyd yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius brenin Persia.
Psalms 73:6Efe a ddisgyn fel glaw ar gnu gwlân; fel cawodydd yn dyfrhau y ddaear.
Daniel 7:5Ac wele anifail arall, yr ail, yn debyg i arth; ac efe a ymgyfododd ar y naill ystlys, ac yr oedd tair asen yn ei safn ef rhwng ei ddannedd: ac fel hyn y dywedent wrtho, Cyfod, bwyta gig lawer.
Daniel 8:26A gweledigaeth yr hwyr a’r bore yr hon a draethwyd, sydd wirionedd: selia dithau y weledigaeth, oherwydd dros ddyddiau lawer y bydd.
Daniel 10:20Ac efe a ddywedodd, a wyddost ti paham y deuthum atat? ac yn awr dychwelaf i ryfela â thywysog Persia: ac wedi i mi fyned allan, wele, tywysog tir Groeg a ddaw.