Llyfr Daniel 11:35
A rhai o’r deallgar a syrthiant i’w puro, ac i’w glanhau, ac i’w cannu, hyd amser y diwedd: canys y mae eto dros amser nodedig.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 8:16Yr hwn a’th fwydodd di yn yr anialwch â manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,)
Proverbs 17:3Y tawddlestr sydd i’r arian, a’r ffwrn i’r aur: ond yr hwn a brawf y calonnau yw yr ARGLWYDD.
Daniel 8:17Ac efe a ddaeth yn agos i’r lle y safwn; a phan ddaeth, mi a ddychrynais, ac a syrthiais ar fy wyneb: ac efe a ddywedodd wrthyf, Deall, fab dyn; oherwydd y weledigaeth fydd yn amser y diwedd.
Daniel 9:27Ac efe a sicrha y cyfamod â llawer dros un wythnos: ac yn hanner yr wythnos y gwna efe i’r aberth a’r bwyd-offrwm beidio; a thrwy luoedd ffiaidd yr anrheithia efe hi, hyd oni thywallter y diben terfynedig ar yr anrheithiedig.
Daniel 11:29Ar amser nodedig y dychwel, ac y daw tua’r deau; ac ni bydd fel y daith gyntaf, neu fel yr olaf.
Daniel 11:40Ac yn amser y diwedd yr ymgornia brenin y deau ag ef, a brenin y gogledd a ddaw fel corwynt yn ei erbyn ef, â cherbydau, ac â marchogion, ac â llongau lawer; ac efe a ddaw i’r tiroedd, ac a lifa, ac a â trosodd.