Llyfr Daniel 2:23
Tydi DDUW fy nhadau yr ydwyf fi yn diolch iddo, ac yn ei foliannu, oherwydd rhoddi ohonot ddoethineb a nerth i mi, a pheri i mi wybod yn awr yr hyn a geisiasom gennyt: canys gwnaethost i ni wybod it hyn a ofynnodd y brenin.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 32:9¶ A dywedodd Jacob, O Dduw fy nhad Abraham, a Duw fy nhad Isaac, O Arglwydd, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i’th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti!
1 Kings 8:57Yr ARGLWYDD ein Dew fyddo gyda ni, fel y bu gyda’n tadau: na wrthoded ni, ac na’n gadawed ni: º
1 Chronicles 29:10Yna y bendithiodd Dafydd yr ARGLWYDD y'ngŵydd yr holl dyrfa, a dywedodd Dafydd, Bendigedig wyt ti, ARGLWYDD DDUW Israel, ein tad ni, o dragwyddoldeb hyd dragywyddoldeb. º
2 Chronicles 20:6Ac a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW ein tadau, onid wyt ti yn DDUW yn y nefoedd, ac yn llywodraethu ar holl deyrnasoedd y cenhedloedd; ac onid yn dy law di y mae nerth a chadernid, fel nad oes a ddichon dy wrthwynebu di?
Psalms 50:14Fel defaid y gosodir hwynt yn uffern; angau a ymborth arnynt; a’r rhai a lywodraetha arnynt y bore; a’u tegwch a dderfydd yn y bedd, o’u cartref.
Proverbs 8:14Mi biau cyngor, a gwir ddoethineb: deall ydwyf fi; mi biau nerth.