Llyfr Daniel 2:45
Lle y gwelaist dorri carreg o’r mynydd, yr hon ni thorrwyd â llaw, a malurio ohoni yr haearn, y pres, y pridd, yr arian, a’r aur; hysbysodd y DUW mawr i’r brenin beth a fydd wedi hyn: felly y breuddwyd sydd wir, a’i ddehongliad yn ffyddlon.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 41:26Y saith o wartheg teg, saith mlynedd ydynt; a’r saith dywysen deg, saith mlynedd ydynt; y breuddwyd un yw.
Genesis 41:32Hefyd am ddyblu y breuddwyd i Pharaoh ddwywaith, hynny a fu oblegid sicrhâu y peth gan Dduw, a bod Duw yn brysio i’w wneuthur.
2 Samuel 7:22Am hynny y’th fawrhawyd, O ARGLWYDD DDUW; canys nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw onid ti, yn ôl yr hyn oll a glywsom ni â’n clustiau
Nehemiah 4:14A mi a edrychais, ac a gyfodais, ac a ddywedais wrth y pendefigion, a’r swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, Nac ofnwch rhagddynt: cofiwch yr ARGLWYDD mawr ac ofnadwy, ac ymleddwch dros eich brodyr, eich meibion a’ch merched, eich gwragedd a’ch tai.
Job 36:26Wele, mawr yw Duw, ac nid adwaenom ef; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef.
Psalms 48:1feibion Cora. Yr holl bobl, curwch ddwylo; llafargenwch i DDUW â llef gorfoledd.