Llyfr Daniel 4:26
A lle y dywedasant am adael boncyff gwraidd y pren; dy frenhiniaeth fydd sicr i ti, wedi i ti wybod mai y nefoedd sydd yn llywodraethu.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Daniel 2:37Ti, frenin, wyt frenin brenhinoedd: canys Duw y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth, gallu, a nerth, a gogoniant.
Daniel 4:23A lle y gwelodd y brenin wyliedydd a sanct yn disgyn o’r nefoedd, ac yn dywedyd, Torrwch y pren, a dinistriwch ef, er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes, a gwlycher ef â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda bwystfil y maes, hyd oni chyfnewidio saith amser arno ef:
Daniel 5:21Gyrrwyd ef hefyd oddi wrth feibion dynion, a gwnaethpwyd ei galon fel bwystfil, a chyda’r asynnod gwylltion yr oedd ei drigfa: â gwellt y porthasant ef fel eidion, a’i gorff a wlychwyd gan wlith y nefoedd, hyd oni wybu mai y DUW goruchaf oedd. yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn gosod arni y neb a fynno.
Matthew 21:20A phan welodd y disgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren!
Luke 15:21A’r mab a ddywedodd wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau; ac nid ydwyf mwy deilwng ¥m galw yn fab i ti.