Llyfr Daniel 4:35
A holl drigolion y ddaear a gyfrifir megis yn ddiddim: ac yn ôl ei ewyllys, ei hun y mae yn gwneuthur â llu y nefoedd, ac â thrigolion y ddaear; ac nid oes a atalio el law ef, neu a ddywedo wrtho, Beth yr wyt yn ei wneuthur?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Samuel 3:18A Samuel a fynegodd iddo yr holl eiriau, ac nis celodd ddim rhagddo. Dywedodd yntau, Yr ARGLWYDD yw efe: gwnaed a fyddo da yn ei olwg. 3:l 9 A chynyddodd Samuel; a’r AR¬GLWYDD oedd gydag ef, ac ni adawodd i un o’i eiriau ef syrthio i’r ddaear.
Job 9:12Wele, efe a ysglyfaetha, pwy a’i lluddia? pwy a ddywed wrtho, Pa beth yr wyt yn ei wneuthur?
Job 33:12Wele, yn hyn nid ydwyt gyfiawn. Mi a’th atebaf, mai mwy ydyw DUW na dyn.
Job 34:19Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion, ac nid edwyn y goludog o flaen y tlawd? canys gwaith ei ddwylo ef ydynt oll.
Job 40:2Ai dysgeidiaeth yw ymryson â’r Hollalluog? a argyhoeddo DDUW, atebed i hynny.
Job 42:2Myfi a wn y gelli di bob peth; ac na atelir un meddwl oddi wrthyt.