Llyfr Daniel 5:2
Wrth flas y gwin y dywedodd Belsassar am ddwyn y llestri aur ac arian, a ddygasai Nebuchodonosor ei dad ef o’r deml yr hon oedd yn Jerwsalem, fel yr yfai y brenin a’i dywysogion, ei wragedd a’i ordderchadon, ynddynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
1Belsassar y brenin a wnaeth wledd fawr i fil o’i dywysogion, ac a yfodd win yng ngŵydd y mil.
Cross References
2 Samuel 9:7A Dafydd a ddywedodd wrtho ef, Nac ofna: canys gan wneuthur y gwnaf drugaredd a thi, er mwyn Jonathan dy dad, a mi a roddaf yn ei ôl i ti holl dir Saul dy dad; a thi a fwytei fara ar fy mwrdd i yn wastadol. º
2 Kings 24:13Ac efe a ddug oddi yno holl drysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thrysorau tŷ y brenin, ac a dorrodd yr holl lestri aur a wnaethai Solomon brenin Israel yn nhemi yr AR¬GLWYDD, fel y llefarasai yr ARGLWYDD. º
2 Chronicles 11:20Ac ar ei hôl hi efe a gymerth Maacha merch Absalom: a hi a ymddug iddo ef Abeia, ac Attai, a Sisa, a Selomith.
2 Chronicles 36:10Ac ymhen y flwyddyn yr anfonodd y brenin Nebuchodonosor, ac a’i dug ef i Pabilon, gyda llestri dymunol tŷ yr AR¬GLWYDD: ac efe a wnaeth Sedeceia ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.
Ezra 1:7A’r brenin Cyrus a ddug allan lestri tŷ yr ARGLWYDD, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor allan o Jerwsalem, ac a roddasai efe yn nhŷ ei dduwiau ei hun:
Jeremiah 27:7A’r holl genhedloedd a’i gwnsanaethant ef, a’i fab, a mab ei fab, nes dyfod gwir amser ei wlad ef, yna cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddo ef. º