Llyfr Daniel 5:27
TECEL; Ti a bwyswyd yn y cloriannau, ac a’th gaed yn brin.
Beibl (1620)
In The King James Version
TEKEL; Thou art weighed in the balances, and art found wanting.
In Context
26Dyma ddehongliad y peth: MENE; DUW a rifodd dy frenhiniaeth, ac a’i gorffennodd.
28PERES: Rhannwyd dy frenhiniaeth a rhoddwyd hi i’r Mediaid a’r Persiaid.
Cross References
Job 31:6Pwysed fi mewn cloriannau cyfiawn, a mynned DUW wybod fy mherffeithrwydd.
Proverbs 21:2Pob ffordd gŵr sydd uniawn yn ei olwg ei hun: ond yr ARGLWYDD a bwysa y calonnau.
Ezekiel 22:18Ha fab dyn, ty Israel a aeth gennyf yn amhuredd: pres, ac alcam, a haearn, a phlwm, ydynt oll yng nghanol y pair: amhuredd arian ydynt.
Matthew 22:11¶ A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisg priodas amdano: