Llyfr Daniel 7:28
Hyd yma y mae diwedd y peth. Fy meddyliau i Daniel a’m dychrynodd yn ddirfawr, a’m gwedd a newidiodd ynof; eithr mi a gedwais y peth yn fy nghalon.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 37:10Ac efe a’i mynegodd i’w dad, ac i’w frodyr. A’i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a’th fam, a’th frodyr, i ymgrymmu i lawr i ti?
Daniel 4:16Newidier ei galon ef o fod yn galon dyn, a rhodder iddo galon bwystfil: a chyfnewidier saith amser arno.
Daniel 5:6Yna y newidiodd lliw y brenin, a’i feddyliau a’i cyffroesant ef, fel y datododd rhwymau ei lwynau ef, ac y curodd ei liniau ef y naill wrth y llall.
Daniel 8:17Ac efe a ddaeth yn agos i’r lle y safwn; a phan ddaeth, mi a ddychrynais, ac a syrthiais ar fy wyneb: ac efe a ddywedodd wrthyf, Deall, fab dyn; oherwydd y weledigaeth fydd yn amser y diwedd.
Daniel 8:27Minnau Daniel a euthum yn llesg, ac a fûm glaf ennyd o ddyddiau yna y cyfodais, ac y gwneuthum orchwyl y brenin, ac a synnais oherwydd y weledigaeth, ond nid oedd neb yn ei deall.
Daniel 11:27A chalon y ddau frenin hyn fydd ar wneuthur drwg, ac ar un bwrdd y traethant gelwydd; ond ni thycia: canys eto y bydd y diwedd ar yr amser nodedig.