Llyfr Daniel 9:16
Oarglwydd, yn ôl dy holl gyfiawnderau, atolwg, troer dy lidiowgrwydd a’th ddicter oddi wrth dy ddinas Jerusalem, dy fynydd sanctaidd; oherwydd am ein pechodau, ac am anwireddau ein tadau, y mae Jerusalem a’th bobl yn waradwydd i bawb o’n hamgylch.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:39A’r rhai a weddillir o honoch, a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion; ac yn anwireddau eu tadau gyd â hwynt y toddant.
1 Kings 9:7Yna y torraf Israel oddi ar wyneb y tir a roddais iddynt hwy, a’r tŷ hwn a gysegrais i’m henw, a fwriaf allan o’m golwg; ac Israel fydd yn ddihareb ac yn wawd ymysg yr holl bobloedd: º
Psalms 31:1neu Gân o gysegriad tŷ Dafydd. Mawrygaf di, O ARGLWYDD: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid.
Psalms 71:2Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi.
Psalms 87:1Gweddi Dafydd. Gostwng, O ARGLWYDD, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf.
Psalms 106:6Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion.