Llyfr Daniel 9:4
A gweddïais ar yr ARGLWYDD fy NUW, a chyffesais, a dywedais, Atolwg, Arglwydd DDUW mawr ac ofnadwy, ceidwad cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant, ac i’r rhai a gadwant ei orchmynion;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 34:6A’r Arglwydd a aeth heibio o’i flaen ef, ac a lefodd Jehofah, Jehofah, y Duw trugarog a graslawn, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd;
Numbers 14:18Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddeu anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhâu ni chyfiawnhâ efe yr euog; ymweled y mae âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth.
Deuteronomy 7:9Gwybydd gan hynny mai yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw, sef y Duw ffyddlawn, yn cadw cyfammod a thrugaredd â’r rhai a’i carant ef, ac a gadwant ei orchymynion, hyd fil o genhedlaethau;
Deuteronomy 7:21Nac ofna rhagddynt: oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd yn dy ganol di, yn Dduw mawr, ac ofnadwy.
1 Kings 8:47Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac crfyn arnat yng ngwlad y rhai a’u caethgludasant, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom hefyd, a gwnaethom yn annuwiol; º
Nehemiah 1:5A dywedais, Atolwg, ARGLWYDD DUW y nefoedd, y DUW mawr ofnadwy, yr hwn sydd yn cadw cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant ef ac a gadwant ei orchmynion: