Llyfr Deuteronomium 1:10
Yr Arglwydd eich Duw a’ch llïosogodd chwi; ac wele chwi heddyw fel sêr y nefoedd o lïosowgrwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
9¶ A mi a leferais wrthych yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Ni allaf fi fy hun eich cynnal chwi:
Read all of Llyfr Deuteronomium 1
Cross References
Genesis 15:5Ac efe a’i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd wrtho, Felly, y bydd dy had di.
Genesis 28:14A’th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan i’r gorllewin, ac i’r dwyrain, ac i’r gogledd, ac i’r dehau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di.
Exodus 32:13Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt. Mi a amlhâf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a’r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i’ch had chwi, a hwy a’i hetifeddant byth.
Deuteronomy 10:22Dy dadau a aethant i waered i’r Aipht yn ddeg enaid a thri ugain; ac yr awr hon yr Arglwydd dy Dduw a’th wnaeth di fel sêr y nefoedd o lïosowgrwydd.
1 Chronicles 27:23Ond ni chymerth Dafydd eu rhifedi hwynt o fab ugain mlwydd ac isod; canys dywedasai yr ARGLWYDD yr amlhai efe Israel megis sêr y nefoedd. º
Ezekiel 16:7Yn fyrddiwn y'th wneuthum fel igwellt y maes, a thi a gynyddaist ac a aethost yn fawr, ac a ddaethost i hardd- wch godidog: dy fronnau a chwyddasant, a'th walk a dyfodd, a thi yn llom ac yn noeth o'r blaen.