Llyfr Deuteronomium 11:1
Rhoddi y fendith a’r felldith o’u blaen hwynt. Car dithau yr Arglwydd dy Dduw, a chadw ei gadwraeth ef, a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau, a’i orchymynion, byth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 11
Cross References
Deuteronomy 4:1Moses yn appwyntio y tair dinas noddfa, o’r tu hwnnw i’r Iorddonen. Bellach gan hynny, O Israel, gwrando ar y deddfau ac ar y barnedigaethau yr ydwyf yn eu dysgu i chwi i’ w gwneuthur; fel y byddoch byw, ac yr eloch, ac y meddiannoch y wlad y mae Arglwydd Dduw eich tadau yn ei rhoddi i chwi.
Deuteronomy 4:40Cadw dithau ei ddeddfau ef, a’i orchymynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw; fel y byddo yn dda i ti, ac i’th feibion ar dy ol di, fel yr estynech ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti byth.
Deuteronomy 6:1Annog i ufuddhâu. A dyma y gorchymynion, y deddfau, a’r barnedigaethau a orchymynodd yr Arglwydd eich Duw eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu:
Deuteronomy 10:12¶ Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a’i garu ef, a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid,
Deuteronomy 13:4Ar ol yr Arglwydd eich Duw y ewch, ac ef a ofnwch, a’i orchymynion ef a gedwch, ac ar ei lais ef y gwrandêwch, ac ef a wasanaethwch, ac wrtho ef y glynwch.
Deuteronomy 30:6A’r Arglwydd dy Dduw a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, er mwyn cael o honot fyw.