Llyfr Deuteronomium 11:9
Ac fel yr estynoch ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau, ar ei roddi iddynt, ac i’w had; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 11
Cross References
Deuteronomy 1:8Wele, rhoddais y wlad o’ch blaen chwi: ewch i mewn, a pherchennogwch y wlad yr hon a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau chwi, i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, ar ei rhoddi iddynt, ac i’w had ar eu hol hwynt.
Deuteronomy 5:16¶ Anrhydedda dy dad a’th fam, fel y gorchymynodd yr Arglwydd dy Dduw i ti; fel yr estyner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
Deuteronomy 6:3¶ Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynnyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd Arglwydd Dduw dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
Deuteronomy 9:5Nid am dy gyfiawnder di, nac am uniondeb dy galon, yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tir hwynt: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y bwrw yr Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di, ac er cyflawni y gair a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.
Psalms 34:12Gwyn ei byd y genedl y mae yr ARGLWYDD yn DDUW iddi; a’r bobl a ddetholodd efe yn etifeddiaeth iddo ei hun.
Proverbs 3:16Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant.