Llyfr Deuteronomium 12:1
Nac ymoroler am gau-dduwiau. Dyma y deddfau a’r barnedigaethau, y rhai a wyliwch ar eu gwneuthur, yn y tir a rydd Arglwydd Dduw dy dadau i ti i’w feddiannu, yr holl ddyddiau y byddoch fyw ar y ddaear.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 12
Cross References
Deuteronomy 3:18¶ Gorchymynais hefyd i chwi yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a roddes i chwi y wlad hon i’w meddiannu: ewch drosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Israel, pob rhai pybyr o honoch.
Deuteronomy 4:5Wele, dysgais i chwi ddeddfau a barnedigaethau, fel y gorchymynodd yr Arglwydd fy Nuw i mi; i wneuthur o honoch felly, yn y wlad yr ydych ar fyned i mewn iddi i’w meddiannu.
Deuteronomy 4:19Hefyd rhag dyrchafu o honot dy lygaid tu a’r nefoedd, a gweled yr haul, a’r lleuad, a’r sêr, sef holl lu y nefoedd, a’th yrru di i ymgrymmu iddynt, a gwasanaethu o honot hwynt, y rhai a rannodd yr Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd dan yr holl nefoedd.
Deuteronomy 5:1Moses, ar ddeisyfiad y bobl, yn derbyn y gyfraith gan Dduw. A Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Clyw, O Israel, y deddfau a’r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddyw; fel y byddo i chwi eu dysgu, a’u cadw, a’u gwneuthur.
Deuteronomy 12:19Gwylia arnat rhag gadael y Lefiad, tra fyddech byw ar y ddaear.
Job 7:1Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog?