Llyfr Deuteronomium 12:28
Cadw a gwrando yr holl eiriau hyn yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti; fel y byddo daioni i ti, ac i’th feibion ar dy ol byth, pan wnelych yr hyn sydd dda ac uniawn y’ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 12
Cross References
Exodus 34:11Cadw yr hyn a orchymynais i ti heddyw: wele, mi a yrraf allan o’th flaen di yr Amoriad, a’r Canaanead, a’r Hethiad, a’r Phereziad, yr Hefiad hefyd, a’r Jebusiad.
Deuteronomy 4:40Cadw dithau ei ddeddfau ef, a’i orchymynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw; fel y byddo yn dda i ti, ac i’th feibion ar dy ol di, fel yr estynech ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti byth.
Deuteronomy 24:8¶ Gwylia ym mhla y gwahan-glwyf, ar ddyfal-gadw, a gwneuthur yn ol yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi: edrychwch am wneuthur megis y gorchymynais wrthynt hwy.
2 Chronicles 7:17A thithau, os rhodi ger fy mron i, fel y rhodiodd Dafydd dy dad, a gwneuthur yr hyn oll a orchmynnais i ti, a chadw fy neddfau a’m barnedigaethau:
John 15:3Yr awron yr ydych chwi yn lân trwy’r gair a leferais i wrthych