Llyfr Deuteronomium 12:30
Gwylia arnat rhag ymfaglu o honot ar eu hol hwynt, wedi eu dinystrio hwynt o’th flaen di; a rhag ymorol am eu duwiau hwynt, gan ddywedyd, Pa fodd y gwasanaethodd y cenhedloedd hyn eu duwiau? myfi a wnaf felly hefyd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 12
Cross References
Exodus 23:24Nac ymgrymma i’w duwiau hwynt, ac na wasanaetha hwynt, ac na wna yn ol eu gweithredoedd hwynt; ond llwyr-ddinystria hwynt, dryllia eu delwau hwynt yn gandryll.
Leviticus 18:3Na wnewch yn ol gweithredoedd gwlad yr Aipht, yr hon y trigasoch ynddi; ac na wnewch yn ol gweithredoedd gwlad Canaan, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi; ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt.
Numbers 33:52Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o’ch blaen, a dinystriwch eu holl luniau hwynt; dinystriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd, a difwynwch hefyd eu holl uchelfeydd hwynt.
Deuteronomy 11:16Gwyliwch arnoch rhag twyllo eich calon, a chilio o honoch, a gwasanaethu duwiau dïeithr, ac ymgrymmu iddynt;
Deuteronomy 20:18Fel na ddysgont i chwi wneuthur yn ol eu holl ffieidd-dra hwynt, y rhai a wnaethant i’w duwiau, a phechu o honoch yn erbyn yr Arglwydd eich Duw.
2 Kings 16:10A’r brenin Ahas a aeth i Damascus i gyfarfod Tiglathpileser brenin Asyria, ac a welodd allor oedd yn Damascus: a’r brenin Ahas a anfonodd at Ureia yr offeiriad agwedd yr allor a’i phortreiad, yn ôl ei holl wneuthuriad. º