Llyfr Deuteronomium 14:26
A dod yr arian am yr hyn oll a chwennycho dy galon; am wartheg, neu am ddefaid, neu am win, neu am ddïod gref, neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon: a bwytta yno ger bron yr Arglwydd dy Dduw, a llawenycha di, a’th deulu.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
25Yna dod ei werth yn arian; a rhwym yr arian yn dy law, a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw:
Read all of Llyfr Deuteronomium 14
Cross References
Deuteronomy 12:12A llawenhêwch ger bron yr Arglwydd eich Duw; chwi, a’ch meibion, a’ch merched, a’ch gweision, a’ch morwynion, a’r Lefiad a fyddo yn eich pyrth chwi: canys nid oes iddo ran nac etifeddiaeth gyd â chwi.
Deuteronomy 12:18Ond o flaen yr Arglwydd dy Dduw y bwyttêi hwynt, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw; ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo yn dy byrth di: llawenycha ger bron yr Arglwydd dy Dduw yn yr hyn oll yr estynech dy law arno.
Deuteronomy 26:11Ymlawenycha hefyd ym mhob daioni a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, ac i’th deulu, tydi, a’r Lefiad, a’r ddïeithr a fyddo yn dy fysg.
Ezra 7:22Hyd gan talent o arian, a hyd gan corus o wenith, a hyd gan bath o win, a hyd gan bath o olew, a halen heb fesur.
Ecclesiastes 9:7Dos, bwyta dy fwyd yn llawen, ac yf dy win â chalon hyfryd: canys yn awr cymeradwy gan DDUW dy weithredoedd.
Mark 11:15¶ A hwy a ddaethant i Jerwsalem. A’r Iesu a aeth i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y deml; ac a ymchwelodd drestlau’r arianwyr, a chadeiriau’r gwerthwyr colomennod: