Llyfr Deuteronomium 15:19
¶ Pob cyntaf-anedig yr hwn a enir o’th wartheg, neu o’th ddefaid, yn wrryw, a gyssegri di i’r Arglwydd dy Dduw: na weithia â chyntaf-anedig dy ychain, ac na chneifia gyntaf-anedig dy ddefaid.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 15
Cross References
Exodus 13:2Cyssegra i mi bob cyntaf-anedig, sef beth bynnag a agoro y groth ym mysg meibion Israel, o ddyn ac anifail: eiddof fi yw.
Exodus 22:29¶ Nac oeda dalu y cyntaf o’th ffrwythau aeddfed, ac o’th bethau gwlybion: dod i mi y cyntaf-anedig o’th feibion.
Leviticus 27:26¶ Ond y cyntaf-anedig o anifail, yr hwn sydd flaen-ffrwyth i’r arglwydd, na chyssegred neb ef, pa un bynnag ai eidion ai dafad fyddo: eiddo yr Arglwydd yw efe.
Numbers 18:15Pob peth a agoro y groth o bob cnawd yr hwn a offrymmir i’r Arglwydd, o ddyn ac o anifail, fydd eiddot ti: ond gan brynu y pryni bob cyntaf-anedig i ddyn; a phryn y cyntaf-anedig i’r anifail aflan.
Deuteronomy 12:5Ond y lle a ddewiso yr Arglwydd eich Duw o’ch holl lwythau chwi, i osod ei enw yno, ei drigfa ef a geisiwch, ac yno y deuwch:
Deuteronomy 12:11Yna y bydd lle wedi i’r Arglwydd eich Duw ei ddewis iddo, i beri i’w enw aros ynddo; yno y dygwch yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi; sef eich poeth-offrymmau, a’ch aberthau, eich degymmau, a dyrchafael-offrwm eich llaw, a’ch holl ddewis addunedau, y rhai a addunedoch i’r Arglwydd.