Llyfr Deuteronomium 16:10
A chadw wyl yr wythnosau i’r Arglwydd dy Dduw, âg offrwm gwirfodd dy law, yr hwn a roddi, megis y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
9¶ Cyfrif i ti saith wythnos: pan ddechreuo y crymman ar yr ŷd, y dechreui rifo y saith wythnos.
Read all of Llyfr Deuteronomium 16
Cross References
Leviticus 5:7Ond os ei law ni chyrhaedd werth oen, dyged i’r Arglwydd, am ei gamwedd yr hwn a bechodd, ddwy durtur, neu ddau gyw colommen; y naill yn aberth dros bechod, a’r llall yn boeth-offrwm.
Leviticus 23:15¶ A chyfrifwch i chwi o drannoeth wedi y Sabbath, o’r dydd y dygoch ysgub y cyhwfan; saith Sabbath cyflawn fyddant:
Numbers 28:26¶ Ac ar ddydd eich blaen-ffrwythau, pan offrymmoch fwyd-offrwm newydd i’r Arglwydd, wedi eich wythnosau, cymmanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caeth-waith nis gwnewch.
Numbers 31:37A theyrnged yr Arglwydd o’r defaid oedd chwe chant a phymtheg a thri ugain.
1 Chronicles 29:14Eithr pwy ydwyf fi, a phwy yw fy mhobl i, fel y caem ni rym i offrymmu yn ewyllysgar fel hyn? canys oddi wrthyt ti y mae pob peth, ac o’th law dy hun y rhoisom i ti. º
Proverbs 3:9Anrhydedda yr ARGLWYDD â’th gyfoeth, ac â’r peth pennaf o’th holl ffrwyth: