Llyfr Deuteronomium 16:15
Saith niwrnod y cedwi wyl i’r Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd: canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylaw; am hynny bydd dithau lawen.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 16
Cross References
Leviticus 23:36Saith niwrnod yr offrymmwch aberth tanllyd i’r Arglwydd: ar yr wythfed dydd y bydd cymmanfa sanctaidd i chwi; a chwi a offrymmwch aberth tanllyd i’r Arglwydd: uchel ŵyl yw hi, na wnewch a ddim caethwaith.
Deuteronomy 7:13Ac a’th gâr, ac a’th fendithia, ac a’th amlhâ di; ac a fendiga ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir di, dy ŷd, a’th win, a’th olew, a chynnydd dy wartheg, a dïadellau dy ddefaid, yn y tir y tyngodd efe wrth dy dadau, ar ei roddi i ti.
Deuteronomy 16:10A chadw wyl yr wythnosau i’r Arglwydd dy Dduw, âg offrwm gwirfodd dy law, yr hwn a roddi, megis y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw.
Deuteronomy 30:16lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddyw garu yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei orchymynion, a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau ef; fel y byddech fyw, ac y’th amlhâer, ac y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i’w feddiannu.
Esther 9:22Megis y dyddiau y cawsai yr Iddewon ynddynt lonydd gan eu gelynion, a’r mis yr hwn a ddychwelasai iddynt o dristwch i lawenydd, ac o alar yn ddydd daionus: gan eu cynnal hwynt yn ddyddiau gwledd a llawenydd, a phawb yn anfon anrhegion i’w gilydd, a rhoddion i’r rhai anghenus.