Llyfr Deuteronomium 17:20
Fel na ddyrchafo ei galon uwch law ei frodyr, ac na chilio oddi wrth y gorchymyn, i’r tu dehau nac i’r tu aswy: fel yr estyno ddyddiau yn ei frenhiniaeth, efe a’i feibion yng nghanol Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 17
Cross References
Deuteronomy 4:2Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi, ac na leihêwch ddim o hono ef, gan gadw gorchymynion yr Arglwydd eich Duw, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi.
Deuteronomy 8:2A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy yr anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchymynion ef, ai nas cedwit.
Deuteronomy 12:25Na fwytta ef; fel y byddo daioni i ti, ac i’th feibion ar dy ol, pan wnelych yr uniawn y’ngolwg yr Arglwydd.
Deuteronomy 12:32Pob gair yr wyf fi yn ei orchymyn i chwi, edrychwch am wneuthur hynny: na chwanega atto, ac na thyn oddi wrtho.
1 Samuel 10:25Yna Samuel a draethodd gyfraith y deyrnas wrth y bobl, ac a’i hysgrifennodd mewn llyfr, ac a’i gosododd gerbron yr ARGLWYDD. A Samuel a ollyngodd ymaith yr holl bobl, bob un i’w dŷ. º
1 Samuel 15:23Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth. Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr ARGLWYDD, yntau a’th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin. º