Llyfr Deuteronomium 17:5
Yna dwg allan y gwr hwnnw, neu y wraig honno, a wnaethant y peth drygionus hyn, i’th byrth, sef y gwr neu y wraig, a llabyddia hwynt â meini, fel y byddont feirw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 17
Cross References
Exodus 22:19¶ Llwyr-rodder i farwolaeth bob un a orweddo gyd âg anifail.
Leviticus 24:14Dwg y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll: a rhodded pawb a’i clywsant ef eu dwylaw ar ei ben ef, a llabyddied yr holl gynnulleidfa ef.
Deuteronomy 13:10A llabyddia ef â meini, fel y byddo marw: canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aipht, o dŷ y caethiwed.
Deuteronomy 22:21Yna y dygant y llangces at ddrws tŷ ei thad, a dynion ei dinas a’i llabyddiant hi â meini, oni byddo farw; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan butteinio yn nhŷ ei thad: a thi a dynni ymaith y drwg o’th fysg.
Joshua 7:25A Josua a ddywedodd, Am i ti ein blino ni, yr Arglwydd a’th flina dithau y dydd hwn. A holl Israel a’ i llabyddiasant ef â meini, ac a’u llosgasant hwy â than, wedi eu llabyddio â meini.
Job 31:28Hyn hefyd fuasai anwiredd i’w gosbi gan y barnwyr: canys gwadaswn DDUW uchod.