Llyfr Deuteronomium 17:9
A dos at yr offeiriaid y Lefiaid, ac at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny, ac ymofyn; a hwy a ddangosant i ti reol y farnedigaeth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 17
Cross References
Deuteronomy 16:18¶ Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau; a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn.
Deuteronomy 21:5A nesâed yr offeiriaid, meibion Lefi, (o herwydd yr Arglwydd dy Dduw a’u hetholodd hwynt i weini iddo ef, ac i fendigo yn enw yr Arglwydd,) ac wrth eu barn hwynt y terfynir pob ymryson a phob pla.
Deuteronomy 33:10Dysgant dy farnedigaethau i Jacob, a’th gyfraith i Israel: gosodant arogl-darth ger dy fron, a llosg aberth ar dy allor.
Jeremiah 18:18Yna y dywedasant, Deuwch, a dychmygwn ddychmygion yn erbyn Jeremeia; canys ni chyll y gyfraith gan yr offeiriad, na chyngor gan y doeth, na’r gair gan y proffwyd: deuwch, trawn ef a’r tafod, ac nac ystyriwn yr un o’i eiriau ef. º
Haggai 2:11Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Gofyn yr awr hon i'r offeiriaid y gyfraith, gan ddywedyd,
Malachi 2:7Canys gwefusau yr offeiriad a gadwant wybodaeth, a'r gyfraith a geisiant o'i enau ef: oherwydd cennad ARGLWYDD y lluoedd yw efe.