Llyfr Deuteronomium 19:1
Cospedigaeth gau dyst. Pan Pan dorro yr Arglwydd dy Dduw ymaith y cenhedloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn rhoddi eu tir i ti, a’i feddiannu o honot ti, a phreswylio yn eu dinasoedd ac yn eu tai;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 19
Cross References
Exodus 21:13Ond yr hwn ni chynllwynodd, ond rhoddi o Dduw ef yn ei law ef, mi a osodaf i ti fan lle y caffo ffoi.
Deuteronomy 6:10Ac fe a dderfydd, wedi i’r Arglwydd dy Dduw dy ddwyn di i’r wlad, (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti,) i ddinasoedd mawrion a theg y rhai nid adeiledaist,
Deuteronomy 12:1Nac ymoroler am gau-dduwiau. Dyma y deddfau a’r barnedigaethau, y rhai a wyliwch ar eu gwneuthur, yn y tir a rydd Arglwydd Dduw dy dadau i ti i’w feddiannu, yr holl ddyddiau y byddoch fyw ar y ddaear.
Deuteronomy 17:14¶ Pan ddelych i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, a’i feddiannu, a thrigo ynddo, os dywedi, Gosodaf arnaf frenhin, megis yr holl genhedloedd sydd o’m hamgylch:
Joshua 24:13A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch am dani, a dinasoedd y rhai nid adeiladasoch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: o’r gwinllannoedd a’r olew-lannoedd ni phlanasoch, yr ydych yn bwytta o honynt.