Llyfr Deuteronomium 22:24
Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac a’u llabyddiwch hwynt â meini, fel y byddont feirw: y llangces, oblegid na waeddodd, a hithau yn y ddinas; a’r gwr, o herwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymmydog: felly ti a dynni ymaith y drygioni o’th fysg.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
23¶ O bydd llangces o forwyn wedi ei dyweddïo i wr, a chael o wr hi mewn dinas, a gorwedd gyd â hi;
Read all of Llyfr Deuteronomium 22
Cross References
Genesis 29:21¶ A dywedodd Jacob wrth Laban, Moes i mi fy ngwraig, (canys cyflawnwyd fy nyddiau,) fel yr elwyf atti hi.
Deuteronomy 13:5A’r prophwyd hwnnw, neu y breuddwydydd breuddwyd hwnnw, a roddir i farwolaeth; canys llefarodd i’ch troi chwi oddi wrth yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dug chwi allan o dir yr Aipht, ac a’ch gwaredodd chwi o dŷ y caethiwed, i’th wthio di allan o’r ffordd, yr hon y gorchymynodd yr Arglwydd dy Dduw i ti rodio ynddi. Felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg.
Deuteronomy 21:14Ac oni bydd hi wrth dy fodd; yna gollwng hi yn ol ei hewyllys ei hun, a chan werthu na werth hi er arian; na chais elw o honi, am i ti ei darostwng hi.
Ezekiel 16:38Barnaf di hefyd a barnedigaethau puteiniaid, a'r rhai a dywalltant waed; a rhoddaf i ti waed mewn llidiowgrwydd ac eiddigedd.
1 Corinthians 5:13Eithr y rhai sydd oddi allan, Duw sydd yn eu barnu. Bwriwch chwithau ymaith y dyn drygionus hwnnw o’ch plith chwi.