Llyfr Deuteronomium 24:14
¶ Na orthrymma was cyflog tlawd ac anghenus, o’th frodyr, neu o’th ddïeithrddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di: 25 Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac â hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr Arglwydd yn dy erbyn, a bod pechod ynot.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 24
Cross References
Leviticus 25:35¶ A phan dlodo dy frawd gyd â thi, a llesgâu o’i law; cynnorthwya ef, fel y byddo byw gyd â thi; er ei fod yn ddïeithrddyn, neu yn alltud.
Job 24:10Gwnânt iddo fyned yn noeth heb ddillad; a dygant ddyrneidiau lloffa y rhai newynog.
Proverbs 14:31Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a’i hanrhydedda ef.
Ezekiel 22:7Dirmygasant ynot dad a mam; gwnaethant yn dwyllodrus a'r dieithr o'th fewn: gorthrymasant ynot yr amddifad a'r weddw.
Amos 4:1Gwrandewch y gair hwn, gwartheg Basan, y rhai ydych ym mynydd Samaria, y rhai ydych yn gorthrymu y tlawd, yn ysigo yr anghenog, yn dywedyd wrth eu meistriaid, Dygwch, ac yfwn.
Malachi 3:5A mi a nesâf atoch chwi i farn; a byddaf dyst cyflym yn erbyn yr hudolion ac yn erbyn y godinebwyr, ac yn erbyn yr anudonwyr, ac yn erbyn camatalwyr cyflog y cyflogedig, a'r rhai sydd yn gorthrymu y weddw, a'r amddifad, a’r dieithr, ac heb fy ofni i, medd ARGLWYDD y lluoedd.