Llyfr Deuteronomium 27:12
Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garizim, wedi eich myned dros yr Iorddonen: Simeon, a Lefi, a Judah, ac Issachar, a Joseph, a Benjamin.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11¶ A gorchymynodd Moses i’r bobl y dydd hwnnw, gan ddywedyd,
13A’r rhai hyn a safant i felldithio at fynydd Ebal: Reuben, Gad, ac Aser, a Zabulon, Dan, a Naphtali.
Read all of Llyfr Deuteronomium 27
Cross References
Genesis 29:33A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Am glywed o’r Arglwydd mai cas ydwyf fi, am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw ef Simeon.
Genesis 30:24A hi a alwodd ei enw ef Joseph, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall.
Genesis 35:22A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno, yna Reuben a aeth ac a orweddodd gyd â Bilhah gordderch-wraig ei dad, a chlybu Israel hynny. Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg.
Joshua 8:33A holl Israel, a’u henuriaid, eu swyddogion hefyd, a’u barnwyr, oedd yn sefyll o ddeutu yr arch, ger bron yr offeiriaid y Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfammod yr Arglwydd, yn gystal yr estron a’r prïodor: eu hanner oedd ar gyfer mynydd Garizim, a’u hanner ar gyfer mynydd Ebal; fel y gorchymynasai Moses gwas yr Arglwydd o’r blaen fendithio pobl Israel.