Llyfr Deuteronomium 29:20
Ni fyn yr Arglwydd faddeu iddo; canys yna y myga digllonedd yr Arglwydd a’i eiddigedd yn erbyn y gwr hwnnw, a’r holl felldithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a’r Arglwydd a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 29
Cross References
Exodus 20:5Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus; yn ymweled âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y dryd edd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt;
Exodus 34:14Canys ni chei ymgrymmu i dduw arall: oblegid yr Arglwydd, Eiddigus yw ei enw; Duw eiddigus yw efe;
Deuteronomy 25:19Am hynny bydded, pan roddo yr Arglwydd dy Dduw i ti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion oddi amgylch, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu, dynnu o honot ymaith goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd: nac anghofia hyn.
Deuteronomy 28:15¶ A bydd, oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur ei holl orchymynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw; y daw arnat yr holl felldithion hyn, ac y’th oddiweddant.
Psalms 69:28Dy DDUW a orchmynnodd dy nerth: cadarnha, O DDUW, yr hyn a wnaethost ynom ni.