Llyfr Deuteronomium 30:19
Galw yr wyf yn dyst i’th erbyn heddyw y nefoedd a’r ddaear, roddi o honof o’th flaen di einioes ac angau, bendith a melldith: dewis dithau yr einioes, fel y byddych fyw, ti a’th had;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 30
Cross References
Deuteronomy 4:25¶ Pan genhedlych feibion, ac wyrion, a hir-drigo o honoch yn y wlad, ac ymlygru o honoch, a gwneuthur o honoch ddelw gerfiedig, llun dim, a gwneuthur drygioni y’ngolwg yr Arglwydd dy Dduw i’w ddigio ef;
Deuteronomy 6:2Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl ddeddfau, a’i orchymynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a’th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estyner dy ddyddiau.
Deuteronomy 30:1Gosod angau ac einioes o flaen y bobl. A phan ddelo yr holl bethau hyn arnat, sef y fendith a’r felldith, y rhai a roddais o’th flaen, ac adgofio o honot hwynt ym mysg yr holl genhedloedd y rhai y’th yrrodd yr Arglwydd dy Dduw di attynt;
Deuteronomy 31:17A’m dig a ennyn yn eu herbyn y dydd hwnnw; a mi a’u gwrthodaf hwynt, ac a guddiaf fy wyneb oddi wrthynt; a bwyttêir ef, a drygau lawer a chyfyngderau a ddigwyddant iddo ef; a’r dydd hwnnw y dywed efe, Onid am nad yw yr Arglwydd yn fy mysg y digwyddodd y drwg hwn i mi?
Deuteronomy 32:1Duw yn ei anfon ef i fynydd Nebo, i weled y wlad, ac i farw. Gwrandewch, y nefoedd, a llefaraf; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau.