Llyfr Deuteronomium 30:20
I garu o honot yr Arglwydd dy Dduw, a gwrandaw ar ei lais ef, a glynu wrtho, (canys efe yw dy einioes di, ac estyniad dy ddyddiau,) fel y trigech yn y tir a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei roddi iddynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 30
Cross References
Deuteronomy 1:8Wele, rhoddais y wlad o’ch blaen chwi: ewch i mewn, a pherchennogwch y wlad yr hon a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau chwi, i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, ar ei rhoddi iddynt, ac i’w had ar eu hol hwynt.
Deuteronomy 4:40Cadw dithau ei ddeddfau ef, a’i orchymynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw; fel y byddo yn dda i ti, ac i’th feibion ar dy ol di, fel yr estynech ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti byth.
Deuteronomy 6:2Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl ddeddfau, a’i orchymynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a’th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estyner dy ddyddiau.
Deuteronomy 10:12¶ Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a’i garu ef, a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid,
Deuteronomy 11:9Ac fel yr estynoch ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau, ar ei roddi iddynt, ac i’w had; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
Deuteronomy 12:10Ond pan eloch dros yr Iorddonen, a thrigo yn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi yn etifeddiaeth i chwi, a phan roddo lonydd i chwi oddi wrth eich holl elynion o amgylch, fel y preswylioch yn ddïogel: