Llyfr Deuteronomium 31:17
A’m dig a ennyn yn eu herbyn y dydd hwnnw; a mi a’u gwrthodaf hwynt, ac a guddiaf fy wyneb oddi wrthynt; a bwyttêir ef, a drygau lawer a chyfyngderau a ddigwyddant iddo ef; a’r dydd hwnnw y dywed efe, Onid am nad yw yr Arglwydd yn fy mysg y digwyddodd y drwg hwn i mi?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 31
Cross References
Deuteronomy 7:21Nac ofna rhagddynt: oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd yn dy ganol di, yn Dduw mawr, ac ofnadwy.
Deuteronomy 29:24Ië, yr holl genhedloedd a ddywedant, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r tir hwn? pa ddigter yw y digofaint mawr hwn?
Deuteronomy 30:19Galw yr wyf yn dyst i’th erbyn heddyw y nefoedd a’r ddaear, roddi o honof o’th flaen di einioes ac angau, bendith a melldith: dewis dithau yr einioes, fel y byddych fyw, ti a’th had;
Judges 2:14A llidiodd dicllonedd yr AR¬GLWYDD yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a’u hanrheithiasant hwy; ac efe a’u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion.
1 Chronicles 28:9A thithau Solomon fy mab, adne-bydd DDUW dy dad, a gwasanaetha ef a chalon berffaith, ac a meddwl ewyllysgar: canys yr ARGLWYDD sydd yn Chwilio yr holl galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau. O cheisi ef, ti a’i cei; ond os gwrthodi ef, efe a’th fwrw di ymaith yn dragywydd. º
2 Chronicles 21:10Felly Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda tryd y dydd hwn: a gwrthry¬felodd Libna y pryd hwnnw oddi tan ei law ef: oherwydd iddo ymwrthod ag AR¬GLWYDD DDUW ei dadau.