The Bible Software
bible.software › Llyfr Deuteronomium › Llyfr Deuteronomium 31 › Llyfr Deuteronomium 31:20

Llyfr Deuteronomium 31:20

Canys dygaf ef i dir yn llifeirio o laeth a mêl, yr hwn a addewais trwy lw i’w dadau ef; fel y bwyttao, ac y digoner, ac yr elo yn fras: ond efe a dry at dduwiau dïeithr, ac a’u gwasanaetha hwynt, ac a’m dirmyga i, ac a ddiddymma fy nghyfammod.

Beibl (1620)

In The King James Version

For when I shall have brought them into the land which I sware unto their fathers, that floweth with milk and honey; and they shall have eaten and filled themselves, and waxen fat; then will they turn unto other gods, and serve them, and provoke me, and break my covenant.

In Context

19Ysgrifenwch yr awr hon gan hynny i chwi y gân hon: dysg hi hefyd i feibion Israel, a gosod hi yn eu genau hwynt; fd y byddo y gân hon yn dyst i mi yn erbyn meibion Israel.

21Yna, pan ddigwyddo iddo ddrygau lawer a chyfyngderau, y bydd i’r gân hon dystiolaethu yn dyst yn ei wyneb ef: canys nid anghofir hi o enau ei had ef: o herwydd mi a adwaen ei fwriad y mae efe yn ei amcanu heddyw, cyn dwyn o honof fi ef i’r tir a addewais trwy lw.

Read all of Llyfr Deuteronomium 31

Cross References

Exodus 3:8A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Aiphtiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid.

Deuteronomy 6:3¶ Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynnyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd Arglwydd Dduw dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.

Deuteronomy 7:1o ran sicred yw yr oruchiafiaeth a rydd Duw arnynt. Pan y’th ddygo yr Arglwydd dy Dduw i mewn i’r wlad yr ydwyt ti yn myned iddi i’w meddiannu, a gyrru o hono ymaith genhedloedd lawer o’th flaen di, yr Hethiaid, a’r Girgasiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Phereziaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid, saith o genhedloedd llïosocach a chryfach na thydi;

Deuteronomy 8:10Pan fwyttêych, a’th ddigoni; yna y bendithi yr Arglwydd dy Dduw am y wlad dda a roddes efe i ti.

Deuteronomy 32:15¶ A’r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd Dduw, yr hwn a’i gwnaeth, ac a ddïystyrodd Graig ei iachawdwriaeth.

Nehemiah 9:35A hwy ni’th wasanaethasant yn eu brenhiniaeth, nac yn dy fawr ddaioni a roddaist iddynt, nac yn y wlad eang a bras yr hon a osodaist o’u blaen hwynt; ac ni ddychwelasant oddi wrth eu drwg weithredoedd.

This Verse In Other Editions

King James VersionBíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)Библия (Русский)新标点和合本성경 (한국어)الكتاب المقدس باللغة العربية، فان دايكBibbia Diodati (Italiano)Kinh Thánh (Tiếng Việt)Biblia Cornilescu (Română)Polish Biblia Gdanska (1881)Statenvertaling (Nederlands)

Study Llyfr Deuteronomium 31:20

Matthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)
← Llyfr Deuteronomium 31:19Llyfr Deuteronomium 31Llyfr Deuteronomium 31:21 →