Llyfr Deuteronomium 31:6
Ymgryfhêwch, ac ymnerthwch; nac ofnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt: canys yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned gyd â thi; ni’th edy, ac ni’th wrthyd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 31
Cross References
Genesis 28:15Ac wele fi gyd â thi; ac mi a’th gadwaf pa le bynnag yr elych, ac a’th ddygaf drachefn i’r wlad hon: o herwydd ni’th adawaf, hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt.
Numbers 13:20A pha dir, ai bras yw efe ai cul; a oes coed ynddo, ai nad oes. Ac ymwrolwch, a dygwch o ffrwyth y tir. A’r dyddiau oeddynt ddyddiau blaen-ffrwyth grawnwin.
Deuteronomy 1:21Wele, yr Arglwydd dy Dduw a roddes y wlad o’th flaen: dos i fynu a pherchennoga hi, fel y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthynt; nac ofna, ac na lwfrhâ.
Deuteronomy 4:31(O herwydd yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw trugarog;) ni edy efe di, ac ni’th ddifetha, ac nid anghofia gyfammod dy dadau, yr hwn a dyngodd efe wrthynt.
Deuteronomy 20:1Ni wasanaetha dinystrio prennau ymborth dyn, wrth warchae ar ddinas. Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: o herwydd yr Arglwydd dy Dduw fydd gyd â thi, yr hwn a’th ddug di i fynu o dir yr Aipht.
Deuteronomy 31:7¶ A Moses a alwodd ar Josua, ac a ddywedodd wrtho y’ngolwg holl Israel, Ymgadarnhâ, ac ymnertha: canys ti a âi gyd â’r bobl yma i’r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt; a thi a’i rhenni yn etifeddiaeth iddynt.