Llyfr Deuteronomium 32:51
O herwydd gwthryfelasoch i’m herbyn ym mysg meibion Israel, wrth ddyfroedd cynnen Cades, yn anialwch Sin; oblegid ni’m sancteiddiasoch ym mhlith meibion Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 32
Cross References
Leviticus 10:3A dywedodd Moses wrth Aaron, Dyma yr hyn a lefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mi a sancteiddir yn y rhai a nesânt attaf, a cher bron yr holl bobl y’m gogoneddir. A thewi a wnaeth Aaron.
Numbers 20:12¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i’m sancteiddio y’ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tir a roddais iddynt.
Numbers 27:14Canys yn anialwch Sin, wrth gynnen y gynnulleidfa, y gwrth ryfelasoch yn erbyn fy ngair, i’m sancteiddio wrth y dwfr yn eu golwg hwynt: dyma ddwfr cynnen Cades, yn anialwch Sin.
1 Kings 13:21Ac efe a lefodd ar ŵr Duw yr hwn a ddaethai o Jwda, gan ddywedyd. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd i ti anufuddhau i air yr ARGLWYDD, ac na chedwaist y gorchymyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD dy DDUW i ti, º
1 Peter 4:17Canys daeth yr amser i ddechrau o’r farn o dŷ Dduw: ac os dechrau hi yn gyntaf arnom ni, beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i efengyl Duw?