Llyfr Deuteronomium 4:26
Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddyw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd am danoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 4
Cross References
Leviticus 26:31A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd, ac a ddinystriaf eich cyssegroedd, ac ni aroglaf eich aroglau peraidd.
Deuteronomy 28:20Yr Arglwydd a ddenfyn arnat ti felldith, trallod, a cherydd, yn yr hyn oll y dodech dy law arno, ac yn yr hyn a wnelych; nes dy ddinystrio a’th ddifetha di yn gyflym; am ddrygioni dy weithredoedd yn y rhai y’m gwrthodaist i.
Deuteronomy 30:18Yr wyf yn mynegi i chwi heddyw, y difethir chwi yn ddïau, ac nad estynwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned dros yr Iorddonen i fyned i mewn iddo i’w berchennogi.
Deuteronomy 31:28Cesglwch attaf holl henuriaid eich llwythau, a’ch swyddogion: fel y llefarwyf y geiriau hyn lle y clywont hwy, ac y cymmerwyf y nefoedd a’r ddaear yn dystion yn eu herbyn hwy.
Joshua 23:16Pan droseddoch gyfammod yr Arglwydd eich Duw, a orchymynodd efe i chwi, a myned a gwasanaethu duwiau dïeithr, ac ymgrymmu iddynt; yna y llidia digofaint yr Arglwydd yn eich erbyn chwi, ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o’r wlad dda yma a roddodd efe i chwi.
Isaiah 6:11Yna y dywedais. Pa hyd, ARGLWYDD? Ac efe a atebodd, Hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannydd, a’r tai heb ddyn, a gwneuthur y wlad yn gwbl anghyfannedd,