Llyfr Deuteronomium 5:14
Ond y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th was, na’th forwyn, na’th ŷch, na’th asyn, nac yr un o’th anifeiliaid, na’th ddïeithrddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth; fel y gorphwyso dy was a’th forwyn, fel ti dy hun.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
13Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:
Read all of Llyfr Deuteronomium 5
Cross References
Genesis 2:2Ac ar y seithfed dydd y gorphenodd Duw ei waith, yr hwn a wnaethai efe, ac a orphwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith, yr hwn a wnaethai efe.
Exodus 23:12Chwe diwrnod y gwnei dy waith; ac ar y seithfed dydd y gorphwysi: fel y caffo dy ŷch a’th asyn lonyddwch, ac y cymmero mab dy forwyn gaeth, a’r dïeithr ddyn, ei anadl atto.
Nehemiah 5:5Ac yn awr, ein cnawd ni sydd fel cnawd ein brodyr, ein plant ni fel eu plant hwy: ac wele ni yn darostwng ein meibion a’n merched yn weision, ac y mae rhai o’n merched ni wedi eu caethiwo, ac heb fod gennym i’w rhyddhau; canys gan eraill y mae ein meysydd a’n gwinllannoedd hyn.
Nehemiah 13:16Y Tyriaid hefyd oedd yn trigo ynddi, ac yn dwyn pysgod, a phob peth gwerthadwy, y rhai yr oeddynt hwy yn eu gwerthu ar y Saboth i feibion Jwda, ac yn Jerwsalem.
Hebrews 4:4Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn; A gorffwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd.