Llyfr Deuteronomium 6:10
Ac fe a dderfydd, wedi i’r Arglwydd dy Dduw dy ddwyn di i’r wlad, (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti,) i ddinasoedd mawrion a theg y rhai nid adeiledaist,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
9Ysgrifena hwynt hefyd ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth.
Read all of Llyfr Deuteronomium 6
Cross References
Genesis 15:18Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfammod âg Abram, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aipht hyd yr afon fawr, afon Euphrates:
Genesis 28:13Ac wele yr Arglwydd yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw Arglwydd Dduw Abraham dy dad, a Duw Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had.
Deuteronomy 6:18A gwna yr hyn sydd uniawn a daionus y’ngolwg yr Arglwydd: fel y byddo da i ti, a myned o honot i mewn, a pherchennogi y wlad dda, yr hon trwy lw a addawodd yr Arglwydd i’th dadau di;
Deuteronomy 8:12Rhag wedi i ti fwytta, a’th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt;
Nehemiah 9:25A hwy a enillasant ddinasoedd cedyrn, a daear fras, ac a feddianasant dai llawn o bob daioni, pydewau cloddiedig, gwinllannoedd, ac olewyddlannoedd, a choed ffrwythlon yn aml; a hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd, ac a frasawyd, ac a ymhyfrydasant yn dy fawr ddaioni di.