Llyfr Deuteronomium 7:26
Na ddwg dithau ffieidd-dra i’th dŷ, fel y byddech ysgymmunbeth megis yntau: gan ddirmygu dirmyga ef, a chan ffieiddio ffieiddia ef; oblegid ysgymmunbeth yw efe.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 7
Cross References
Deuteronomy 13:17Ac na lyned wrth dy law di ddim o’r dïofryd-beth: fel y dychwelo yr Arglwydd oddi wrth angerdd ei ddig, ac y rhoddo i ti drugaredd, ac y tosturio wrthyt, ac y’th amlhao, megis y tyngodd wrth dy dadau:
Joshua 6:17¶ A’r ddinas fydd yn ddïofryd-beth, hi, a’r hyn oll sydd ynddi, i’r Arglwydd: yn unig Rahab y butteinwraig fydd byw, hi a chwbl ag sydd gyd â hi yn tŷ; canys hi a guddiodd y cenhadau a anfonasom ni.
Joshua 7:1ei ddinystrio ef a’r hyn oll oedd iddo, yn nyffryn Achor. Ond meibion Israel a wnaethant gamwedd am y dïofryd-beth: canys Achan mab Carmi, mab Zabdi, mab Zerah, o lwyth Judah, a gymmerodd o’r dïofryd-beth: ac ennynodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn meibion Israel.
Isaiah 30:22Yna yr halogwch ball dy gerfddelw arian, ac effod dy dawdd-ddelw aur; gwasgeri hwynt fel cadach misglwyf, a dywedi wrthynt, DOS ymaith. º
Hosea 14:8Effraim a ddywed, Beth sydd i mi mwyach a wnelwyf ag eilunod? Gwrandewais, ac edrychais arno: myfi sydd fel ffynidwydden ir; ohonof fi y ceir dy ffrwyth di.