Llyfr y Pregethwr 6:11
Gan fod llawer o bethau yn amlhau gwagedd, beth yw dyn well?
Beibl (1620)
In The King James Version
Seeing there be many things that increase vanity, what is man the better?
In Context
Read all of Llyfr y Pregethwr 6
Cross References
Ecclesiastes 1:6Y gwynt a â i’r deau, ac a amgylcha i’r gogledd: y mae yn myned oddi amgylch yn wastadol, y mae y gwynt yn dychwelyd yn ei gwmpasoedd.
Ecclesiastes 2:3Mi a geisiais yn fy nghalon ymroddi i win, (eto yn arwain fy nghalon mewn doethineb,) ac i gofleidio ffolineb, hyd oni welwn beth oedd y da hwnnw i feibion dynion, yr hyn a wnânt hwy dan y nefoedd holl ddyddiau eu bywyd.
Ecclesiastes 4:1Felly mi a ddychwelais, ac a edrychais ar yr holl orthrymderau sydd dan yr haul: ac wele ddagrau y rhai gorthrymedig heb neb i’w cysuro; ac ar law eu treiswyr yr oedd gallu, a hwythau heb neb i’w cysuro.
Ecclesiastes 4:16Nid oes diben ar yr holl bobl, sef ar y rhai oll a fu o’u blaen hwynt; a’r rhai a ddêl ar ôl, ni lawenychant ynddo: gwag¬edd yn ddiau a blinder ysbryd yw hyn hefyd.
Hosea 12:1Effraim sydd yn ymborthi ar wynt, ac yn dilyn gwynt y dwyrain: ar hyd y dydd yr amlhaodd gelwydd a dinistr; amod a wnaethant â’r Asyriaid; ac olew a ddygwyd i’r Aifft.